Gwobr Portreadau Cymru 2



Mae Gwobr Portreadau Cymru yn gystadleuaeth bob dwy flynedd a grewyd i gynyddu ymwybyddiaeth am bortreadu fel un o ddisgyblaethau celfyddyd gain. Ni wnaed fawr ddim i annog portreadau yng Nghymru ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a threfnwyd y wobr hon i wneud iawn am y bwlch yn y ddarpariaeth ac i adfer y ffurf celf pwysig yma i'w ddyledus le yng Nghymru fodern.


Mae hon yn fenter gynhwysol sy'n annog ymgeisiadau ar ffurf paentiadau gwreiddiol gan artistiaid o unrhyw oedran sy'n byw, gweithio neu wedi'u geni yng Nghymru. Mae'r gystadleuaeth yn agored i artistiaid o unrhyw genedl y mae eu gwaith yn darlunio portread o Gymro neu Gymraes. Detholir y gweithiau i'w cynnwys yn yr arddangosfa gan banel o feirniaid. Mae hwn yn brosiect consortiwm a drefnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych mewn cydweithrediad â Chastell Bodelwyddan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Williamson, Penbedw.

Y Panel Beirniaid
Julian Treuherz - Ceidwad yr Orielau, Walker Art Gallery (Cadeirydd y panel)
Colin Simpson - Prif Swyddog Amgueddfeydd, Williamson Art Gallery & Museum
Ben Stammers - Artist
Guy Kennaway - Noddwr



Cyfawyddiadau Ymgeisio | Rheolau | Lleoliad Taith yr Arddangosfa | Partneriaeth